Jump to content

Calendr

S L M M I G S
---1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293012
3456789

Ymunwch a'n rhestr bostio

  • Catrin Finch and Cimarron
  • No image
  • No image
  • No image
  • No image
  • No image
  • No image
  • No image
  • No image

Hyd perfformiad:

Contact us to book
Main image
Gwer 12th Maw

Catrin Finch and Cimarron

Performance Arts - Catrin Finch and Cimarron (Cert. U)

Bookmark and Share

CYNHYRCHIAD AR Y CYD GAN ASTAR | THEATR MWLDAN

Catrin Finch a Cimarron

Tocynnau: £15 Consesiynau: £13

Yn dathlu prydferthwch a natur amryddawn cerddoriaeth delyn Colombia a Chymru, mae’r prosiect arbennig o liwgar a phoblogaidd hwn yn dychwelyd ar ôl y derbyniad ecstatig  a welwyd i’r sioeau hyn a werthwyd pob tocyn ar eu cyfer yn 2009 a set lwyddiannus Cimarron yng ngŵyl WOMAD.

Mae Cimarron yn gwneud cerddoriaeth joropo wyllt, heb ei ddofi sy’n cadw’r rhyddid hwn sydd i’w ganfod yn un o ranbarthau mwyaf dirgel y byd, a’i wreiddiau mewn traddodiad gwerin dwfn a ddyfynnir gan etifeddiaeth mestizo gymysg Affricanaidd, Sbaeneg a diwylliannau brodorol. Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys arae ddisglair o unawdau, dawns chwyrliog a chaneuon caru swynol!

Does angen fawr o ragarweiniad ar Catrin Finch. Mae ymdriniaeth hynod arloesol y delynores pen ei champ wedi dal dychymyg cefnogwyr o gwmpas y byd ac mae hi wedi mwynhau cryn lwyddiant clasurol a thu hwnt. Ers i Catrin cwrdd â Cimarron am y tro cyntaf yn 2007 mae’r adwaith cerddorol rhyngddynt wedi dod a chynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad i’w traed!