Taliesin Broadcast - NT Live: Cat on a Hot Tin Roof (15)

Overview:

National Theatre Yn Fyw

Cat on a Hot Tin Roof (15)

Gan Tennessee Williams. Cyfarwyddwr: Benedict Andrews

Gwelwyd campwaith Tennessee Williams o’r ugeinfed ganrif yn cael ei berfformio am dymor cyfyngedig iawn yn y West End yn Llundain yn 2017. Roedd ‘thrilling revival’ (New York Times) Benedict Andrews yn cynnwys Sienna Miller ochr yn ochr â Jack O’Connell a Colm Meaney.

Ar noson laith ym Mississippi, mae teulu o ddeheuwyr yn dod at ei gilydd yn eu planhigfa gotwm i ddathlu pen blwydd Big Daddy. Mae’r gwres tanbaid bron mor llethol â’r celwyddau maen nhw’n eu dweud. Mae Brick a Maggie’n dawnsio o amgylch y cyfrinachau a’r tensiynau rhywiol sy’n bygwth dinistrio eu priodas. Gyda dyfodol y teulu yn y fantol, pa fersiwn o’r gwirionedd sy’n real – a pha un fydd yn ennill?

Llun: Johan Persson

Nos Fercher 28 Chwefror 7yh

Prices and Times:

Wed 28th Feb

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 14
Under 18's:£ 12
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12