Taliesin Live - The Dime Notes

Overview:

David Horniblow clarinét, Andrew Oliver piano

Dave Kelbie gitâr rhythm, Tom Wheatley bas acwstig  

Mae The Dime Notes yn cloddio’n ddwfn i synau blŵs byd jazz New Orleans yn y 1920’au a’i ffocws ar y clarinét, gan ddatgelu repertoire o stompiau, blŵs a pherlau angof yr oes gan gerddorion fel Johnny Dodds, Jelly Roll Morton a Red Nichols.

Arweinwyr y band yw clarinetydd Chris Barber am gyfnod maith, David Horniblow, ffigur enwog yn y byd jazz yn Llundain, a’r pianydd o America, Andrew Oliver, sydd wedi cyrraedd y DU yn ddiweddar. Yn angor wedyn i’r band mae curiad diguro gitarydd rhythm gorau Llundain, Dave Kelbie. Yn sedd y bas mae’r chwaraewr bas o Lundain, Tom Wheatley, gŵr y mae galw mawr amdano ar draws sawl genre gyda’i sain enfawr a’i hyblygrwydd o ran steil.       

Mae The Dime Notes yn cyflwyno golwg ffres ar steil oesol, gan bwysleisio’r gyrru dwfn a’r alawon trwm a wnaeth jazz cynnar yn chwyldroadol, yn ddadleuol ac yn hynod boblogaidd.        

“Inspired” – SUNDAY TIMES

“Lovingly curated examples of great music from the ancestral repertoire of jazz” – JAZZ DA GAMA

Nos Sul 8 Ebrill 7.30yh

Prices and Times:

Sun 8th Apr

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 13
Under 18's:£ 11
Full time students:£ 11
Senr.Citizens:£ 11
Other Conc.:£ 11