Taliesin Live - Dogs Don't Do Ballet

Overview:

Little Blue Monster Productions yn cyflwyno

Dogs Don’t Do Ballet

Stori ddoniol am gi bach sydd â breuddwyd fawr iawn!

Dydi Biff ddim fel cŵn eraill. Dydi o ddim yn gwneud pethau fel pi pi ar byst lampau neu grafu ei chwain neu yfed allan o’r toiled. Na, mae Biff yn hoffi golau’r lloer a cherddoriaeth a cherdded ar flaenau ei draed. Oherwydd dydi Biff ddim yn meddwl ei fod yn gi. Na, mae’n meddwl ei fod yn falerina! Stori ddoniol am gi bach sydd â breuddwyd fawr iawn! Yn seiliedig ar y llyfr arobryn i blant gan Anna Kemp a Sara Ogilvie, mae’r sioe ardderchog yma i godi’r galon yn llawn cerddoriaeth, caneuon, pypedau llaw a Biff, y ci sy’n dawnsio ballet!

Cynhyrchwyr y sioe yw Little Blue Monster (Blunderbus gynt) a bydd y stori hapus a doniol yma’n gwneud i chi chwerthin yn uchel a dawnsio yn eich sedd.

Perffaith ar gyfer plant bach 3+ oed ac oedolion.

Dydd Gwener 23 Chwefror 4.30yp

Half_Term_treat.jpg

Spice.png

Prices and Times:

Fri 23rd Feb

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 10
Family price:£ 35