Great Hall Music - Nicholas Daniel and the Haffner Ensemble

Overview:

Nicholas Daniel a’r Haffner Ensemble

Nicholas Daniel Obo
Joy Farrall Clarinét
Emer McDonagh Ffliwt
Sarah Burnett Basŵn 
Martin Owen Corn

Mae’r Haffner Wind Ensemble yn un o ensembles siambr mwyaf blaenllaw Prydain ac un o’r pedwarawdau chwyth mwyaf profiadol. Mae ehangder eu profiad cerddorol fel unigolion, a’u gwaith helaeth gyda’i gilydd, yn creu ffresni a bywiogrwydd mewn perfformiadau sydd nid yn unig yn rhagori yng nghlasuron y repertoire chwyth ond hefyd mewn cerddoriaeth gyfoes.

Mae repertoire yr Haffner Wind Ensemble yn cynnwys llawer o glasuron safonol yn ogystal â gweithiau cyfoes. Bydd eu cyngerdd yn cynnwys Serenade No. 10 for Winds, the ‘Gran Partita’ gan Mozart, yn ogystal â gwaith gan Beethoven; Rondino in E flat major, WoO 25 a Dvo˘rák: Serenade op.44.

I’w glywed yn rheolaidd ar BBC Radio 3 a Classic FM ac yn teithio’n helaeth i wyliau mawr ledled y DU a thramor, gan gynnwys Cheltenham, Caerfaddon, Stockholm a’r Proms, mae’r ensemble yn mwynhau enw da am osod y clasurol a’r cyfoes ochr yn ochr â’i gilydd, am hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes, am ddawn gerddorol eithriadol ac, yn fwy na dim, am ei berfformiadau cynnes a difyr. 

“Haffner Wind ensemble is as flexible of tone as it is of instrumental line-up” The Guardian

“A bravura display from Daniel” The Observer

“Nicholas Daniel, one of the greatest oboists of our time” The Herald

Nos Sadwrn 10 Chwefror 7.30yh

Prices and Times:

Sat 10th Feb

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 15
Under 18's:£ 5
Full time students:£ 12
Senr.Citizens:£ 12
Other Conc.:£ 12