Great Hall Music - Cerddorfa Jazz Ieuenctid Cenedlaethol

Overview:

National Youth Jazz Orchestra yn cyflwyno 'What is Hip?'

Mae’r National Youth Jazz Orchestra yn gerddorfa ddisglair ar gyfer cerddorion jazz proffesiynol ifanc gorau’r DU, gan gyfuno adran rhythm galed a llu o unawdwyr eithriadol dalentog, i sicrhau’r gorau un i chi mewn jazz band mawr Prydeinig. O dan Gyfarwyddyd Artistig Mark Armstrong, mae’r gerddorfa 23 darn yn perfformio tua 40 o gyngherddau y flwyddyn yn genedlaethol ac yn rhynglwadol. Y nod yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion jazz ifanc gyda gwaith addysgol ble bynnag maent yn teithio.

Yn ystod 52 mlynedd ei hoes, mae NYJO wedi helpu i lansio gyrfaoedd llawer o gerddorion jazz enwocaf y wlad, gan gynnwys Guy Barker, Amy Winehouse, Mark Nightingale a Laura Jurd. Mae’r rhaglen ‘What is Hip?’ heno’n gerddoriaeth i wneud i chi symud. O’r Pedwardegau i’r Mileniwm newydd, mae alawon clasurol gan Duke Ellington i’w clywed ochr yn ochr â chaneuon mawr Kylie Minogue, Kool & The Gang a Tower of Power ar y daith eclectig hon drwy hanes y grŵf.

Nos Sul 25 Chwefror 7.30yh

Prices and Times:

Sun 25th Feb

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 12
Under 18's:£ 5
Full time students:£ 5
Senr.Citizens:£ 10
Other Conc.:£ 10