Taliesin Cinema - WOW: The Square BBFC 15 Rating

Overview:

Cyf: Ruben Ostland

Sweden-Yr Almaen-Ffrainc-Denmarc

2017 2awr 22munud Swedeg gydag isdeitlau

Claes Bang, Elisabeth Moss, Dominic West

Mae’r ffilm ddychan swreal a deifiol o ddoniol yma’n mynd ati’n fedrus i ddatgymalu’r elfennau ymhonnus mewn celf safonol. Yn guradur uchel ei barch mewn amgueddfa celf gyfoes, mae Christian yn dyheu am dynnu sylw gydag arddangosfa gan wahodd y cyhoedd i ‘The Square’, ble cânt eu hannog i ymddwyn yn gyfrifol. Ddyddiau cyn yr agoriad, mae Christian yn cael profiad annymunol ac nid yw’n gallu anghofio amdano. Yn fuan iawn mae mewn cyflwr truenus. Ffilm feiddgar, bryfociol a gafaelgar. Nid yw craffter Ostlund wrth astudio cynildeb ymddygiad dyn yn methu byth. 

Gostyngiad o 10% wrth i chi brynu tri thocyn neu fwy o raglen Gŵyl Ffilmiau Cymru a'r Byd yn Un Taliesin.            

Enillydd Palme d’Or yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes yn 2017

“Moments of pure showstopping freakiness. This is high wire cinema” ★★★★ The Guardian

Nos Fawrth 13 Mawrth 8yh

Prices and Times:

Tue 13th Mar

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 7.75
Under 18's:£ 6.50
Full time students:£ 6
Senr.Citizens:£ 6.50
Other Conc.:£ 6.50