Cinema - Where the Wild Things Are (Cert. PG)
Cyf: Spike Jonze
UDA 2009 1awr 41munud
James Gandolfini, Catherine Keener,
Forest Whittaker, Max Records
Mae'r cyfarwyddwr Spike Jonze (Being John Malkovich) a'r awdur Dave Eggers (Away We Go) yn dod ag un o'r llyfrau mwyaf annwyl i'r sgrin fawr. Mae Where the Wild Things Are gan Maurice Sendak yn stori glasurol am blentyndod a'r mannau lle rydyn ni'n mynd i ddeall y byd rydyn ni'n byw ynddo. Mae'r ffilm yn adrodd stori Max, bachgen bywiog a sensitif sy'n teimlo nad oes neb yn ei ddeall gartref ac sy'n dianc i'w ystafell. Mae Max yn ei gael ei hunan ar ynys, lle mae'n cyfarfod â dieithriaid dirgel a rhyfedd sydd ag emosiynau sydd mor wyllt ac anodd eu rhagweld â'u gweithredoedd. Pan fydd Max yn cael ei goroni'n frenin, mae e'n addo creu man lle bydd pawb yn hapus. Cyn hir mae Max yn gweld, serch hynny, nad mater hawdd yw rheoli ei deyrnas ac mae ei berthnasoedd yno'n fwy cymhleth nag a dybiodd yn wreiddiol.


















