Cinema - Svengali BBFC 15 Rating

Overview:

Cyfarwyddwr: John Hardwick

DU 2013 1 awr 13 munud

Martin Freeman, Jonny Owen, Brian Hibbard, Vicky McClure

Mae Svengali yn adrodd stori Dixie, postmon o dde Cymru sy'n ffan fawr o gerddoriaeth. Mae wedi breuddwydio am ddarganfod band gwych ar hyd ei oes ac yna, un diwrnod, wrth bori trwy YouTube, mae'n dod o hyd iddynt. Mae'n cysylltu â nhw ac yn cynnig ei wasanaethau rheoli. Maen nhw'n ifanc, yn drahaus, yn rhywiol ac yn wirioneddol wych. Ar ôl recordio eu demo ar dâp, mae Dixie'n mentro i Lundain. Mae'r Dixie diniwed, llygadrwth yn cychwyn ar daith wyllt trwy'r diwydiant mwyaf 'drwg-enwog' i gyd. Ei bartner a'i bwyll trwy hyn i gyd yw ei enaid hoff cytûn, Michelle. Mae pob diwrnod yn frwydr i Dixie, nad oes ganddo'r un ddimai goch ac sy'n gweithio'n ddi-dâl i drefnu gigiau i'w fand hoff, y mae eu pennau'n chwyddo gyda'u henwogrwydd. Po fwyaf llwyddiannus yw'r band, y mwyaf tebygol yw Dixie o'u colli. Mae'n rhaid iddo benderfynu ar ei flaenoriaethau mewn bywyd… ei gariad at gerddoriaeth neu ei gariad at Michelle. Dilynir y ffilm gan sesiwn holi ac ateb gyda'r ysgrifennwr /seren a chynfyfyriwr o Brifysgol Abertawe, Jonny Owen.

“One of the coolest and funniest British movies in ages” Irvine Welsh

Dates and Times:

Maw 6th Mai

7.30yh

Pricing Information:

CategoryPrice
Full price:£ 6.75
Under 18's:£ 5
Full time students:£ 5.30
Senr.Citizens:£ 5.30
Other Conc.:£ 5.30

View Preview:

Dychwelyd Blaenorol Nesaf