Jump to content

Newyddion Diweddaraf

  1. news image 18.Aug.2010

    [Title]

    Darllenwch ragor...

Calendr

S L M M I G S
---1234
567891011
12131415161718
19202122232425
262728293012
3456789

Ymunwch a'n rhestr bostio

Amdanom Ni

Mae Canolfan Celfyddydau Taliesin wedi'i lleoli yng nghanol Campws Singleton Prifysgol Abertawe. Rydym ar agor drwy'r flwyddyn ac mae'r rhaglen weithgareddau a digwyddiadau wedi tyfu i gynnwys dangos ffilmiau'n rheolaidd yn y sinema, cyfartaledd o ddeg arddangosfa dros dro y flwyddyn, ac amrywiaeth eang o berfformiadau byw, o ddawns a drama i jazz a cherddoriaeth byd.

Yng nghanolfan Taliesin mae'r pwyslais ar ansawdd a blaengaredd - mae'n Taliesin External Shot by Annalise Richterdarparu gwasanaeth hanfodol i'r myfyrwyr a phobl Abertawe, ac yn ganolfan ragoriaeth ranbarthol. Yn ogystal â digwyddiadau o fewn yr adeilad, yn ddiweddar o ganlyniad i gynnydd yn yr arian a dderbyniwn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, rydym wedi dechrau cymryd ein cynyrchiadau y tu allan i'r theatr, gan gynnal Dyddiau Dawns, gŵyl flynyddol yng nghanol y ddinas, a theithio cynyrchiadau ein hunain a chyd-gynyrchiadau i theatrau eraill drwy Gymru a thu hwnt.

Yn ddiweddar buom yn dathlu ein pen-blwydd yn 25 oed, wedi i ni agor ein drysau gyntaf ym mis Mehefin 1984. Enwir Taliesin ar ôl y bardd Celtaidd o'r 6ed ganrif o'r un enw.

Mae Taliesin hefyd yn gartref i Ganolfan yr Aifft, amgueddfa o hynafion o'r Aifft sydd wedi'i hachredu gan yr MLA. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am yr atyniad hwn, sy'n rhad ac am ddim.